GWASANAETHAU ARBENIGOL GAN WEITHWYR EIDDO PROFFESIYNOL YMRODDGAR


Mae gan The Property People Dirfesurwyr Siartredig cymwys o wahanol feysydd ynghyd ag Arbenigwyr Eiddo all ddelio gyda phob math o faterion yn ymwneud ag eiddo. O fewn y meysydd amrywiol o’r proffesiwn eiddo mae ein Tirfesurwyr Siartredig (RICS - Royal Institute of Chartered Surveyors) hefyd yn cynnwys aelodau cymwys o ICBA (Institute of Commercial and Business Agents), y National Association of Valuers and Auctioneers (NAVA), y National Association of Estate Agents (NAEA) a’r Association of Residential Letting Agents (ARLA).

Gyda’i gilydd, mae gan The Property People weithlu cymwys mewn materion preswyl, masnachol, amaethyddol a busnes, yn barod i’ch gwasanaethu chi.