BENTHYCIADAU PROFFESIYNOL PRESWYL A MASNACHOL
Mae’n debyg mai un o’r cynlluniau buddsoddi mwyaf diogel yw eiddo tiriog. Fel cartref neu ased ariannol dros gyfnod hir o amser mae gan eiddo enw da. Pan fyddwch yn penderfynu sut i ariannu eich pryniant neu’n dymuno ail fenthyg, mae’n werth cysidro barn cynghorwr morgeisiau annibynnol proffesiynol gyda blynyddoedd lawer o brofiad cadarn a gwybodaeth.
Yn y Mortgage People, rydym yn ffodus o gael arweinydd diwydiant yn ein tîm. Aelod o’r Chartered Institute of Banking sy’n ychwanegu sicrwydd i’n gwasanaeth. Mae’r Mortgage People yn cael eu hawdurdodi a’u rheoli gan y Financial Services Authority (FSA) a’n rhif cofrestru yw XXXXXXX.
Fel arbenigwyr annibynnol ar forgeisiau, nid ydym yn gorfod argymell dim ond un benthyciwr neu gwmni yswiriant. Gallwn edrych ar y farchnad gyfan a’n gwaith ni yw dod o hyd i’r cynnyrch gorau a mwyaf addas ar eich cyfer chi.
|