MARCHNATA EICH EIDDO
Mae The Property People yn farchnatwyr eiddo proffesiynol. Rydym yn defnyddio amryw ddulliau a thechnegau i sicrhau bod y bobl fwyaf priodol yn gweld eich eiddo.
Mae hyn yn rhan o’n gwaith…
ARWYDDION
Er yr holl ddatblygiadau technolegol, mae tua 30% o ymholiadau yn dod gan bobl sydd wedi bod yn gyrru drwy’r ardal a’u denu i brynu eiddo. Rydym yn argymell gosod arwydd y tu allan i’ch eiddo, ond, dewiswch chi.
DISGRIFIO’R EIDDO
Gan fod pob un o’r tai yn ein Casgliad Arbennig yn unigryw, rydym yn argraffu disgrifiad digidol o nodweddion arbennig yr eiddo, gyda ffotograffiaeth o safon uchel, gyda chynlluniau llawr os dymunwch a mapiau lleoliad. Mae pob set o nodweddion yn cael ei ddylunio’n unigol i gynnwys disgrifiadau sy’n berthnasol i’r dull mwyaf addas o farchnata’r eiddo hwnnw.
GYRRU TRWY’R POST
Rydym yn gyrru manylion drwy’r post at bobl all fod â diddordeb yn yr eiddo. Rydym hefyd yn gyrru nodyn bodyn, e-bost a neges SMS.
GWEFAN
Bydd manylion eich eiddo yn cael ei gadw ar ein gwefan, sef gwefan sydd wedi ennill gwobrau rhyngwladol , www.tppuk.com. Mae hyn yn ffordd wych o ddenu pobl sy’n dymuno symud i’r ardal leol a thu hwnt. Mae’r defnydd o wefannau fel man cychwyn yn cynyddu. Er hyn, pwrpas gwefan yw arwain pobl at ein harbenigwyr ni i drafod eich eiddo. Ar ben ei hun, ni all y wefan roi’r pris gorau i chi.
|