GOSODIADAU PRESWYL

Mae nifer o elfennau allweddol i’w cysidro wrth osod eiddo. Rydym yn argymell eich bod yn pwyso a mesur pa lefel o wasanaeth yr hoffech ei gael er mwyn i ni fedru penderfynu pa agweddau o’n gwasanaeth ni sydd fwyaf addas i chi.

Chwilio am eiddo? cliciwch yma neu gwnewch gais am Forgais- cysylltwch â ni

Photo

TAWELWCH MEDDWL

Nod ein holl staff yw ennill cymhwyster Gwobr Dechnegol mewn Gosodiadau Preswyl.

LEFELAU O WASANAETH - DEWISWCH CHI

Mae Rhenti The Property People yn cynnig amrywiol lefelau o wasanaeth i gwrdd ag anghenion gwahanol y cleientiaid, o’r lefel gychwynnol, gwasanaeth tenant yn unig hyd at wasanaeth rheoli llawn er tawelwch meddwl. Mae’r gwasanaeth rheoli llawn yn sicrhau bod pob agwedd o’r broses gosod yn cael ei wneud yn effeithlon ac yn gost effeithiol ar eich rhan gan osgoi’r angen i chi ddelio â’r materion hir a blinedig hynny all godi yn ystod y denantiaeth.

SYLFAEN GADARN!

Bydd The Property People bob amser yn ceisio cynnig gwasanaeth sy’n cwrdd ag anghenion y Deddfau Tai amrywiol. Mae’n debygol iawn y bydd eich eiddo un ai’n Denantiaeth Byrddaliad Sicr neu’n Osodiad Cwmni.

Y CAM NESAF

Cysylltwch â’ch Adran Osod leol yn The Property People i drafod eich anghenion.

 

MWYHAU INCWM RHENT

Mae eiddo’n amrywio ac felly hefyd anghenion pob landlord. Byddwn yn rhoi cyngor i chi ynglŷn â beth i’w wneud er mwyn cael y rhent uchaf posib a sut i’w gael yn sydyn.

GWNEUD Y GORAU O’R DULL GOSOD

Mae gosod eiddo yn faes cystadleuol. Pa un ai’n eiddo wedi ei ddodrefnu neu heb ei ddodrefnu bydd safon yr addurno a’r cynnwys yn cael effaith ar swm y rhent a’r amserlen.

Mae galw mawr am eiddo wedi ei ddodrefnu a heb ei ddodrefnu a dylid, os yn bosib, bod yn hyblyg yn hyn o beth.

DOD O HYD I’R TENANT CYWIR – YMRWYMO I SAFON UCHEL

Yn sicr, ased cryfaf Adran Osod The Property People yw ei staff. Mae’r tîm yn ymroddgar, yn broffesiynol ac yn frwdfrydig. Mae gan bob un ohonynt wybodaeth leol a chynhwysfawr yn ogystal â phrofiad o osod.

Ymhellach, rydym yn buddsoddi’n sylweddol mewn hyfforddiant sy’n sicrhau bod y gwasanaeth yr ydych yn ei dderbyn o’r safon uchaf bob amser.

Oes gennych chi eiddo i’w osod?

 VIDEO I'W YCHWANNEGU