Casgliad Arbennig

Nodweddion unigryw i unigolion fel chi...

Mae gan bob eiddo yn ein Casgliad Arbennig ei nodweddion unigryw ei hun. Yn union fel chi. Grisiau troellog o garreg, lle tân Inglenook, addurniadau avant garde…mae pob tŷ yn wahanol.

Os hoffech fod yn wahanol i bawb arall, dewch i weld y Casgliad Arbennig. Popeth o safon yn enwedig y gwasanaeth.

Nid yw pris y tŷ yn effeithio’r casgliad, dyma dai gydag ystod eang o brisiau y gall unrhyw un geisio eu prynu. Ac wrth gwrs, byddwch yn derbyn gwasanaeth o safon wrth brynu tŷ o safon gan The Property People.

Pam The Property People?

Cyngor gonest fydd yn cael gwared â’r poen meddwl wrth brynu a gwerthu, gan arwain prynwyr tai, gwerthwyr, landlordiaid a thenantiaid, ar hyd y daith.

Safon yw pwyslais The Property People – gan gynnig dull marchnata priodol i bob unigolyn sydd angen trafod eiddo.

Os yw’n fwriad gennych roi eich eiddo ar werth yn awr neu yn y dyfodol, mae gennym enw da, profiad a gwybodaeth leol gyda chysylltiadau rhyngwladol all eich helpu. Mae ein perfformiad yn dangos llwyddiant cyson gan fodloni dyheadau’r cwsmer. Mae gan bob cwmni annibynnol yn y Grŵp ymrwymiad selog â’u perchennog, gan amlaf gyda dros chwarter canrif o brofiad gwaith a chymwysterau sy’n cynnig yr arbenigedd angenrheidiol er mwyn cael y pris gorau ar gyfer eich eiddo.

Marchnata eich Eiddo

Mae The Property People yn farchnatwyr eiddo proffesiynol. Rydym yn defnyddio amryw ddulliau a thechnegau i sicrhau bod y bobl fwyaf priodol yn gweld eich eiddo. Mae hyn yn rhan o’n gwaith…

ARWYDDION

Er yr holl ddatblygiadau technolegol, mae tua 30% o ymholiadau yn dod gan bobl sydd wedi bod yn gyrru drwy’r ardal a’u denu i brynu eiddo. Rydym yn argymell gosod arwydd y tu allan i’ch eiddo, ond, dewiswch chi.

DISGRIFIO’R EIDDO

Gan fod pob un o’r tai yn ein Casgliad Arbennig yn unigryw, rydym yn argraffu disgrifiad digidol o nodweddion arbennig yr eiddo, gyda ffotograffiaeth o safon uchel, gyda chynlluniau llawr os dymunwch a mapiau lleoliad. Mae pob set o nodweddion yn cael ei ddylunio’n unigol i gynnwys disgrifiadau sy’n berthnasol i’r dull mwyaf addas o farchnata’r eiddo hwnnw.

GYRRU TRWY’R POST

Rydym yn gyrru manylion drwy’r post at bobl all fod â diddordeb yn yr eiddo. Rydym hefyd yn gyrru nodyn bodyn, e-bost a neges SMS.

 

 

GWEFAN

Bydd manylion eich eiddo yn cael ei gadw ar ein gwefan, sef gwefan sydd wedi ennill gwobrau rhyngwladol , www.tppuk.com. Mae hyn yn ffordd wych o ddenu pobl sy’n dymuno symud i’r ardal leol a thu hwnt. Mae’r defnydd o wefannau fel man cychwyn yn cynyddu. Er hyn, pwrpas gwefan yw arwain pobl at ein harbenigwyr ni i drafod eich eiddo. Ar ben ei hun, ni all y wefan roi’r pris gorau i chi.

MARCHNATA DROS Y FFON

Bydd pobl yn cael galwad gan ein tîm o arbenigwyr ffôn cyfeillgar.

HYSBYSEBU MEWN PAPURAU NEWYDD

Mae The Property People yn cael sylw lleol, rhanbarthol a chenedlaethol yn y wasg. Mae hyn yn annog pobl i ymweld â’n swyddfeydd neu’r wefan. Mae rhai o’r cyhoeddiadau a restrir isod ar gael, am bris bychan gan amlaf.

YMWELIADAU TYWYS

Rydym yn fodlon iawn dangos eich eiddo i brynwyr ar eich rhan. Nid yn unig y mae hyn yn arbed amser i chi ond byddwch hefyd yn manteisio ar arbenigedd gwerthwr eiddo proffesiynol all farchnata eich cartref.

GWASANAETH PERSONOL

Mae cael ymateb cywir a gonest yn hanfodol bwysig. Bydd The Property People yn apwyntio ymgynghorydd marchnata personol ar eich cyfer a fydd yn rhoi gwasanaeth ardderchog i chi.

MARCHNATA DISYLW

I’r cleientiaid hynny sy’n dymuno marchnata mewn dull cyfrinachgar gan osgoi arwyddion a hysbysebion yn y papurau newydd.

STAFF PROFFESIYNOL A PHROFIADOL

Y staff yw conglfaen pob busnes llwyddiannus ac rydym yn falch iawn o fod wedi cyflogi rhai o’r unigolion mwyaf safonol, proffesiynol, profiadol a chymwys o fewn ein maes.

 

Rhaid bod yn ddyfeisgar wrth lynu at werthoedd traddodiadol….

Yn The Property People rydym yn falch o fedru glynu at werthoedd traddodiadol y gwasanaeth gwerthu tai gan adeiladu perthynas dda gyda chleientiaid a phrynwyr posib drwy gadw mewn cysylltiad mewn modd effeithlon a phersonol.

Ein nod yw bod yn bartner gwasanaeth eiddo agored yn hytrach na gwerthwr tai sy’n mynnu gwneud elw yn unig.

Rydym yn sylweddoli bod gan dechnoleg ran bwysig i’w chwarae wrth farchnata cartrefi ein cleientiaid yn effeithiol ac yn effeithlon ac rydym wedi buddsoddi mewn offer a chyfryngau sydd yn hybu safon dda o wasanaeth traddodiadol.

Wrth i fwy a mwy o brynwyr tai chwilio am eiddo ar y we fel y cam cyntaf, mae’n hanfodol ein bod yn medru rhoi gwybodaeth iddynt mor sydyn ac effeithiol â phosib ynglŷn â nodweddion eich tŷ, gyda’n gwefan unigryw sydd wedi ennill sawl gwobr, www.tppuk.com.

Mae gwefannau yn rhan allweddol o farchnata ond nid ydynt yn medru trafod y pris gorau. Mae The Property People yn ceisio cynnig gwasanaeth sy’n troi ymholiad syml yn ymweliad ac yna’n werthiant.
Mae rhai o’n swyddfeydd yn llwytho’r pyrth canlynol i fyny.

Unwaith i’r cyswllt gael ei wneud gwaith ein staff profiadol yw cadw cysylltiad agos gyda’r cwsmer hyd nes i gartref addas gael ei ddarganfod. Gall y wefan ddechrau’r broses ac mae’n declyn hanfodol er mwyn denu prynwyr go iawn. Er hyn, hoffem feddwl mai’r sylw personol yr ydym yn ei roi i bob cleient a chwsmer sy’n troi ymholiad cychwynnol yn werthiant tŷ llwyddiannus.

Y ffordd foesol o werthu

Mae symud tŷ yn gur pen. Yn The Property People rydym yn cydymdeimlo â chi gan ymdrechu i wneud pethau mor ddi-lol â phosib. Mae gennym enw da am safon uchel o wasanaeth gan edrych ar ôl ein cwsmeriaid. Dyma’r ffordd i fynd ati mewn busnes.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cyflogi gwerthwr tai sy’n cydymffurfio â’r safon uchaf o broffesiynoldeb.

GWERTHIANT PRESWYL

Mae gonestrwydd a phroffesiynoldeb yn bwysig iawn i ni ac rydym yn aelodau llawn o’r National Association of Estate Agents (NAEA).

OMBWDSMON & OFT (Office of Fair Trading)

Mae’r cynllun Ombwdsman i Werthwyr Tai yn cynnwys gwasanaeth annibynnol ar gyfer delio ag anghydfod rhwng gwerthwyr tai sy’n aelodau a chwsmeriaid sy’n prynu a gwerthu eiddo preswyl yn y DU.

TIRFESURWYR SIARTREDIG

Mae gan The Property People dîm o dirfesurwyr proffesiynol a chymwys sy’n cynnig ystod eang o wasanaethau yn ymwneud â phob math o eiddo preswyl a masnachol.

Ein nod yw darparu gwasanaeth sy’n arwain pobl yn ofalus trwy’r holl broses o brynu a gwerthu tŷ, sef proses gysylltiol gyda’r ddwy ochr yn derbyn cefnogaeth.

Yn The Property People, byddwch yn falch o wybod y byddwch fel rheol yn cael eich gwasanaethu gan gwmni gwbwl annibynnol o Dirfesurwyr Siartredig, Priswyr, Gwerthwyr Tai ac Arwerthiannwyr.